Mae’r rhan fwyaf o clybiau CFfI Maldwyn yn cyfarfod unwaith yr wythnos. Mae’r cyfarfodydd yn amrywiol iawn, gyda chymysgedd o siaradwyr gwadd, tripiau i fusnesau lleol ac aelodau yn trefnu digwyddiadau, cystadlaethau a chodi arian sydd ar y gweill. Gall y Ffederasiwn ddweud yn falch bod ei aelodau’n codi miloedd o bunnoedd i elusennau bob blwyddyn. Yn ogystal â’r holl hwyl mae ochr ddifrifol i’r gwaith y mae ein haelodau’n ei wneud. Mae llawer yn ymwneud ag ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth am faterion sy’n effeithio arnynt megis damweiniau fferm, ynysu gwledig a materion iechyd meddwl. Mae clybiau’n darparu siaradwyr a sgyrsiau ar ddiogelwch ar y fferm, cymorth cyntaf, cam-drin domestig ac ati. Helpu i roi mwy o wybodaeth i’w aelodau a chynnig cyfle i ffermwyr y dyfodol ddatblygu eu sgiliau a rhoi llais iddynt.