Y Pwyllgor Amaeth yw cyswllt yr aelodau i materion gwledig. Nod y Pwyllgor yw rhannu arloesedd, arallgyfeirio a rheoliadau newydd o fewn y diwydiant amaethyddol gydag aelodau CFfI. Gwneir hyn trwy deithiau a digwyddiadau fel teithiau fferm a chyflwyniadau gydag arbenigwyr blaenllaw’r diwydiant.