Dewiswyd Jamie Hughes, CFfI Llanfyllin fel cynrychiolydd Cymru i Seminar Hydref ‘Rural Youth Europe’ yn Budapest fel rhan o Raglen Ryngwladol 2019 CFfI Cymru. Nod ‘Rural Youth Europe’ yw uno sefydliadau ieuenctid gwledig ledled Ewrop gan hyrwyddo datblygu gwledig, ffordd o fyw sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd a chyfranogiad ieuenctid. Maent hefyd yn codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol ac amrywiaeth rhyngddiwylliannol. Er mwyn tynnu sylw at anghenion ieuenctid gwledig ac i dynnu sylw cyrff rhyngwladol a chenedlaethol yn ogystal â’r cyhoedd, mae Rural Youth Europe yn trefnu seminarau blynyddol a rali i drafod a rhannu gwybodaeth am bynciau fel datblygu gwledig, cyfranogiad ieuenctid, deialog rhyngddiwylliannol a hawliau dynol.
“Roedd y daith yn ddiddorol iawn wrth imi ddysgu am sefydliadau ieuenctid Ewropeaidd eraill a gwneud cyfeillgarwch na feddyliais erioed y byddai’n digwydd. Roedd hyn yn bosibl yn unig oherwydd CFfI!”
Jamie Hughes, CFfI Llanfyllin
“Ar ôl peidio â theithio i lawer o wledydd o’r blaen, roedd y daith Ryng-Reilio yn ffordd wych o weld cynifer o wledydd a diwylliannau ledled Ewrop. Mae’n daith llawn hwyl ac antur ac yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd!”
Elin Haf Evans, CFfI Bro Ddyfi & Tesni Jones, CFfI Guilsfield