Mae pob clwb yn ethol dau gynrychiolydd i eistedd ar y Pwyllgor Gwaith i gyflwyno eu barn ar lefel Sirol. Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Pwyllgor Gwaith, etholir y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd. Mae aelodau cyfetholedig hefyd yn cael eu hethol ar y Pwyllgor i ddarparu eu cefnogaeth a’u harbenigedd i’r pwyllgor ond nid oes raid iddynt fod yn aelod nac o fewn oedran aelodaeth.