Mae’r digwyddiad dwyieithog hwn yn un o ddigwyddiadau diwylliannol arddangos mwyaf CFfI Maldwyn gyda digon o gystadleuaeth.

    Mae’n llawn dop o’r hyn y mae aelodau CFfI yn ei wneud orau – difyrru cynulleidfaoedd gydag amrywiaeth o berfformiadau gwych llwyfan traddodiadol, ddim mor draddodiadol a hwyliog. Nid yw’r cyfoeth o dalent yn stopio yno gan fod yr arddangosfa Llenyddiaeth a Rhyddiaith o safon uchel iawn a dangosir dawn greadigol aelodau CFfI yn yr adran Celfyddydau, Coginio a Chrefft.

    Mae enillwyr y cystadlaethau gwahanol yn cael cyfle i symud ymlaen i gynrychioli Maldwyn ar lefel Cymru a Chenedlaethol.

    Bydd Eisteddfod CFfI Maldwyn 2021 yn cael ei gynnal ar lein i chi ei fwynhau o gysur eich cartrefi eich hun, gyda sylw a chanlyniadau yn cael eu rhyddhau trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol CFfI Maldwyn ar 6ed o Fawrth 2021.

    Eisteddfod Rithiol 2021
    Cynigion a Chanlyniadau Cystadleuaeth