Nia Jones

    Youth Forum Chairman

    Cadeirydd Fforwm Ieuenctid

    Mae wedi bod yn anrhydedd bod yn gadeirydd pwyllgor Fforwm Ieuenctid eleni ochr yn ochr â Lowri Evans fel Is-gadeirydd a Lois Tudor fel Ysgrifennydd. Er ei bod hi wedi bod yn flwyddyn ryfedd i bawb, rydym ni wedi gwneud ein gorau i wneud y gorau o’r sefyllfa fel y gallai’r aelodau barhau i fwynhau Fforwm Ieuenctid.

    Dechreuon ni’r flwyddyn yn hwyrach na fel arfer gyda Noson Gymdeithasol Nadolig dros y cyfrwng o Zoom. Roedd y noson yma yn gwis gydag amrywiaeth o rowndiau gennyn ni’r swyddogion a chafodd pawb llawer o hwyl a chofleidio’r teimlad o Nadolig. Yn y flwyddyn newydd, wnaethom ni cynnal cystadleuaeth ar gyfer Santes Dwynwen ac roedd angen i aelodau creu calon yn ffordd greadigol, roedd llawer o bobl o bob oedran wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

    Yn ystod Chwefror wnaethom ni cynnal noson crempog dros Zoom. Roedd holl o’r aelodau wedi creu crempogau da iawn ac roedd rhai yn greadigol iawn. Bingo Pasg oedd y cyfarfod nesaf roeddwn ni wedi cynnal yn Ebrill ac roedd rhai aelodau yn fwy llwyddiannus a lwcus na eraill wrth chwarae.

    Yn Fehefin, fe wnaethom gynnal ein cyfarfod wyneb i wyneb cyntaf o’r flwyddyn ar ôl misoedd o weld ein gilydd ar sgrin cyfrifiadur. Roeddwn ni wedi cael noson  rownderi  cystadleuol iawn ar Gae Ysgol Abermule yn y tywydd hyfryd. Efo’r holl gyfyngiadau oedd mewn lle i sicrhau bod pawb yn saff roedd hi’n wych gweld pawb!

    Rydym yn ddiolchgar iawn i’r aelodau sydd wedi bod yn mynychu’r cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn ryfedd yma ac rydym yn gobeithio cael Haf sy’n llawn gweithgareddau hwyl er mwyn gwneud lan am y dechreuad rhyfedd i’r flwyddyn!

    It has been an honour to be chairman of the youth forum committee this year alongside Lowri Evans as Vice-Chairman and Lois Tudor as Secretary. Even though it has been a strange year for everyone, we have tried our best to make the most of the situation so the members continue to enjoy youth forum.

    We started the year later than usual with our Christmas Social over the truly cherished Zoom. This was a quiz night with a variety of rounds provided by us officials and everyone had a lot of fun and we all embraced the Christmas spirit.  In the new year, we held a competition for Santes Dwynwen where members had to creatively make a heart, we had lots of great entries for this competition from members of all ages.

    During February, we held a Pancake making night over Zoom of course. All member made very impressive pancake designs with some being exceptionally creative. Easter Bingo was the next meeting we held which was in April where some of the members were more successful than others and definitely got lucky numerous times!

    In June we held our first face to face meeting of the year after months of seeing each other over Zoom! We held a competitive night of rounders at Abermule School Field in the lovely sunshine. Even with all the restrictions we had in place to ensure everyone was safe it was still great to see everyone finally!

    We’re so thankful to the members to have attended our meetings throughout this very strange year and we hope to have a summer filled with fun activities to make up for the strange start to the year!

    Committee Officials

    Swyddogion y Pwyllgor

    Nia Jones

    Chairman

    Cadeirydd

    logo

    Lowri Evans

    Vice Chairman

    Is-Gadeirydd

    logo

    Lois Tudor

    Secretary

    Ysgrifennyddes