Swyddog Marchnata
Swyddog Cyfathrebu
Hoffwn ein dwy ddechrau gan ddiolch am y cyfle i fod yn rhan o dîm o swyddogion CFfI Maldwyn y flwyddyn hôn fel eich Swyddog Marchnata a Swyddog Cyfathrebu. Er ei fod wedi bod yn flwyddyn hollol wahanol i’r arfer rydym wir wedi mwynhau ac yn annog unrhyw aelod i gymryd y cyfle i ddod yn Swyddog y Sir gyda dwy law.
Cyn y Cyfarfod Cyffredinol y llynedd, penderfynwyd rhannu’r rôl marchnata yn ddwy gyda’r Swyddog Marchnata yn edrych ar yr elfen o hysbysebu gan rannu llwyddiannau’r mudiad gyda phapurau newydd a’r Swyddog Cyfathrebu yn edrych ar ôl y cyfryngau cymdeithasol.
Trwy’r pandemig rydym wedi deall pwysigrwydd marchnata. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi ein galluogi i barhau i ddangos gwir ysbryd ac ymdrech clybiau Sir Trefaldwyn, mae wedi bod yn wir fraint gallu rhannu hynny gydag ein dilynwyr ar gymdeithas. Er gwaethaf cyfnod anodd a heriol mae ein clybiau wedi dod at ei gilydd a pharhau i gystadlu, cymdeithasu a mwynhau er bod hynny wedi bod ar-lein dros Zoom am gyfnod lot rhy hir!
Rydym ein dwy yn falch iawn o fod yn rhan o CFfI Maldwyn ac yn edrych ymlaen at y dyfodol a diolch ichi eto am y cyfle o fod yn rhan o dîm Swyddogion y Sir, gan obeithio y gallwn gyd gwrdd wyneb yn wybed dros y deuddeg mis nesaf.
We’d both like to start by thanking you all for the opportunity to be part of Montgomery YFC as the County Marketing Officer and Communications Officer. Although it’s been a very different YFC year we have both thoroughly enjoyed and would encourage any of the members to take the opportunity to become a County Officer with both hands in the future.
Before the County AGM last year, it was decided to divide the Marketing Role into two roles a Marketing Officer which would look at the more traditional marketing methods such as newspapers and the Communications Officer would look at the social media channels.
Throughout this pandemic we’ve all realised the importance of marketing. Social media has enabled us to continue to show the true spirit and effort of Montgomery YFC clubs, it has been a real privilege to be able to share all your efforts with our followers and the whole community. Despite a difficult and challenging year our clubs have come together and continued to compete, socialise and enjoy the YFC opportunities even though that has been online through Zoom for far too long!
We are both very proud to be part of Montgomery YFC and look forward to the future and thank you all again for the opportunity to be part of the County Officers team. Let’s hope we can all meet up face-to-face over the next 12 months.