Aelod Hyn y Flwyddyn
Wel am flwyddyn! Dechreuodd fy nhaith i ddod yn Uwch Aelod y flwyddyn ar gyfer CFfI Maldwyn fel unrhyw gystadleuaeth arall. Fe wnes i lenwi’r ffurflen a chefais fy nghyfweld gan banel uchel ei barch ar ddydd Sadwrn Gŵyl Mis Chwefror. Roedd yn anrhydedd enfawr clywed fy enw yn cael ei ddarllen allan fel Uwch Aelod y Flwyddyn yn Theatr Hafren ar y nos Sadwrn gwlyb a gwyntog honno. Ychydig a wyddem y byddai’r noson honno o’r heriau dybryd a’r rhwystrau annisgwyl eleni yn ein cyflwyno.
Er bod eleni wedi bod yn wahanol iawn i’r hyn yr oeddwn i’n ei ddychmygu, rydw i dal wedi mwynhau pob munud ohono’n fawr. Roedd yn gymaint o bleser bod yn rhan o gyfarfodydd pwysig a helpodd i benderfynu ar y ffordd ymlaen ar gyfer CFfI Maldwyn. Mae ymroddiad a brwdfrydedd yr holl swyddogion yn glod i’r mudiad ac yn un rwy’n falch o fod yn rhan ohono. Roedd cyfarfodydd a gweithgareddau a gynhaliwyd ar-lein yn golygu y gallwn ymuno o gysur fy nghartref fy hun. Roedd hyn yn golygu llawer i mi wrth i ni groesawu ein mab i’r byd ym mis Mawrth.
Mae gen i gymaint i ddiolch i fudiad CFfI amdano. Ers ymuno â CFfI Dyffryn Tanat lawer o leuadau yn ôl, rwyf wedi gwneud cymaint o atgofion ac wedi cael profiadau bythgofiadwy. Mae CFfI wedi fy helpu i dyfu fel person ac wedi rhoi sgiliau bywyd trosglwyddadwy i mi sydd wedi bod yn amhrisiadwy. Ond yn bwysicaf oll, mae CFfI wedi rhoi ffrindiau i mi am oes, mae hyn yn rhywbeth na all arian ei brynu! Mae wedi bod yn anrhydedd cynrychioli fy nghlwb ar lefel sirol a braint cael cynrychioli’r sir ar lefel Cymru gyfan mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus a chystadlaethau drama. Fy un darn o gyngor i unrhyw Yw fyddai rhoi cynnig ar bopeth unwaith a pheidiwch â bod ofn neidio i mewn gyda’r ddwy droed yn gyntaf. Yn aml, dyma’r eiliadau a’r atgofion sy’n aros gyda chi am oes!
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i’r mudiad wrth inni ddod allan o flwyddyn wahanol ac anodd iawn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwn yn dod yn ôl yn gryfach nag erioed! Pob lwc i Lynfa Jones ar ei blwyddyn i ddod fel Aelod Hyn y Flwyddyn 2021-2022, rwy’n siŵr y bydd yn un lwyddiannus iawn.
Diolch!
Well what a year! My journey to becoming Senior Member of the year for Montgomery YFC started out as any other competition. I filled in the form and was interviewed by an esteemed panel on the Saturday of Feb Fest. It was a huge honour to hear my name being read out as Senior Member of the Year within Theatre Hafren on that blustery and rainy Saturday night. Little did we know that evening of the gruelling challenges and unforeseen obstacles this year would present us with.
Although this year has been very different to what I imagined I have still thoroughly enjoyed every minute of it. It was such a pleasure being part of important meetings that helped decide the way forward for Montgomery YFC. The dedication and the enthusiasm of all the officials is a credit to the movement and one I am proud to be a part of. Meetings and activities held online meant that I could join in from the comfort of my own home. This meant a lot to me as we welcomed our son into the world in March.
I have so much to thank the YFC movement for. Since joining Dyffryn Tanat YFC many moons ago, I have made so many memories and had unforgettable experiences. YFC has helped me grow as a person and given me transferable life skills that have been invaluable. But most importantly, YFC has given me friends for life, this is something money can’t buy! It has been an honour representing my club at a county level and a privilege to represent the county at an all Wales level in public speaking competitions and drama competitions. My one piece of advice to anyone would be try everything once and don’t be afraid to jump in with both feet first. These are often the moments and memories that stay with you for life!
I would like to take this opportunity to wish the movement the very best of luck as we emerge out of a very different and difficult year. I have no doubt that we will come back stronger than ever! Good luck to Lynfa Jones on her upcoming year as Senior Member of the Year 2021-2022, I’m sure it will be a very successful one.
Thank you!