Montgomery Young Farmers Clubs is delighted to announce a partnership with Bute Energy, who will be joining as a corporate sponsor.
This partnership will not only support Montgomery YFC’s core activities but also provide significant backing for the Youth Forum, a key initiative aimed at giving young members a voice in shaping the future of farming and rural life.
The sponsorship is officially celebrated in the lead-up to Montgomery YFC’s February Festival. This much-anticipated event will bring together members from clubs across the county to showcase their talents on stage at The Hafren Theatre in a week-long pantomime competition.
Bute Energy’s sponsorship will underpin Montgomery YFC’s work to provide opportunities for education, skill-building, and community engagement for young people in rural areas. A key part of the partnership will be the opportunity for young farmers in the Montgomery YFC community to discuss wind farms and renewable energy projects.
Marc Griffiths, Chair of Montgomery YFC, said:
“We are grateful to Bute Energy for their sponsorship and support of Montgomery YFC. This partnership allows our members to develop their skills, strengthen community ties, and have a meaningful voice in shaping the future of rural life.”
Bute Energy’s renewable energy projects form a critical part of Wales’ transition to a low-carbon economy. The company’s portfolio of onshore wind energy parks will collectively produce 2GW of clean energy—enough to power over 2.2 million homes. Bute Energy’s investments not only contribute to the Welsh Government’s renewable energy targets but also create opportunities for local communities through job creation and infrastructure development.
Biba Chuta, Bute Energy Social Mobility Partner, said:
“We are thrilled to partner with Montgomery YFC and support their incredible work with young people in Montgomeryshire. At Bute Energy, we are committed to helping young people develop the skills and knowledge they need to thrive in a greener society in Wales. This partnership provides a valuable opportunity to engage with the next generation of farmers, supporting both their personal development and the wider transition to renewable energy in Wales. We’re excited to work with Montgomery YFC to build a more sustainable future together, while ensuring the voices of local communities are heard every step of the way in our renewable energy proposals.”
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth gyda Bute Energy, sydd yn ymuno fel noddwr corfforaethol.
Bydd y bartneriaeth hon nid yn unig yn cefnogi gweithgareddau craidd CFfI Sir Drefaldwyn ond hefyd yn darparu cefnogaeth sylweddol i’r Fforwm Ieuenctid, menter allweddol sydd â’r nod o roi llais i aelodau ifanc wrth lunio dyfodol ffermio a bywyd gwledig.
Mae’r nawdd yn cael ei ddathlu’n swyddogol wrth i ni nesáu at Ŵyl Chwefror CFfI Sir Drefaldwyn. Bydd y digwyddiad poblogaidd hwn yn dod ag aelodau o glybiau ledled y sir ynghyd i arddangos eu doniau ar lwyfan Theatr Hafren mewn cystadleuaeth bantomeim sy’n para wythnos gyfan.
Bydd nawdd Bute Energy yn cefnogi gwaith CFfI Sir Drefaldwyn i ddarparu cyfleoedd addysgol, datblygu sgiliau ac ymgysylltu â’r gymuned i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig. Un o brif agweddau’r bartneriaeth fydd y cyfle i ffermwyr ifanc yn y gymuned drafod ffermydd gwynt a phrosiectau ynni adnewyddadwy.
Dywedodd Marc Griffiths, Cadeirydd CFfI Sir Drefaldwyn:
“Rydym yn ddiolchgar i Bute Energy am eu nawdd a’u cefnogaeth i CFfI Sir Drefaldwyn. Mae’r bartneriaeth hon yn galluogi ein haelodau i ddatblygu eu sgiliau, cryfhau cysylltiadau cymunedol, a chael llais ystyrlon wrth lunio dyfodol bywyd gwledig.”
Mae prosiectau ynni adnewyddadwy Bute Energy yn chwarae rhan allweddol yn y broses o drosglwyddo Cymru i economi carbon isel. Bydd portffolio’r cwmni o barciau ynni gwynt ar y tir yn cynhyrchu 2GW o ynni glân – digon i bweru dros 2.2 miliwn o gartrefi. Mae buddsoddiadau Bute Energy nid yn unig yn cyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ond hefyd yn creu cyfleoedd i gymunedau lleol drwy greu swyddi a datblygu seilwaith.
Dywedodd Biba Chuta, Partner Symudedd Cymdeithasol Bute Energy:
“Rydym yn falch iawn o gydweithio â CFfI Sir Drefaldwyn ac yn cefnogi eu gwaith gwych gyda phobl ifanc yn y sir. Yn Bute Energy, rydym wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn cymdeithas wyrddach yng Nghymru. Mae’r bartneriaeth hon yn darparu cyfle gwerthfawr i ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr, gan gefnogi eu datblygiad personol yn ogystal â’r broses ehangach o drosglwyddo i ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â CFfI Sir Drefaldwyn i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy gyda’n gilydd, gan sicrhau bod lleisiau cymunedau lleol yn cael eu clywed ym mhob cam o’n cynigion ynni adnewyddadwy.”