Efallai bod y pandemig byd-eang wedi effeithio ar ein bywydau cymdeithasol ac amser yn CFfI dros y flwyddyn ddiwethaf ond yn sicr nid yw wedi atal aelodau CFfI Maldwyn rhag gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau! Cynhaliwyd Eisteddfod CFfI Maldwyn 2021 ar lein, gydag aelodau’n anfon ffotograffau a fideos o gysur eu cartrefi eu hunain i gystadlu ar y llwyfan rhithwir.
Derbyniwyd dros 270 o gynigion ar draws y 24 cystadleuaeth a hoffai’r Swyddogion Sir longyfarch yr holl aelodau ar gynigion o safon mor uchel. Rydym yn falch iawn o gael pobl ifanc mor dalentog yn Sir Drefaldwyn!
Hoffai CFfi Maldwyn ddiolch i’r beirniaid a’r cyfeilydd rhyfeddol am eu gwaith caled:
Cyfeilydd: Emma Morgan
Adran Gerddoriaeth: Nia Turner & Tudur Jones
Adran Adloniant Ysgafn: Steffan Harri, Glandon Lewis, Alwyn Morris a Bryony Wilson
Adran Llefaru, Cerdd a Rhyddiaith: Eleri Llwyd Jones
Adran Gwaith Cartref: Thomas Jones, Mary Evans (ME Marchnata a Digwyddiadau), Elinor Jones (Elinor Bakes), Huw Jones, Aled Rees & Bryony Wilson
Rhaid diolch hefyd i’r rhieni ac Arweinwyr Clwb sydd wedi cefnogi’r cystadleuwyr, i Swyddogion y Clwb am annog aelodau i gymryd rhan ac wrth gwrs rhaid diolch yn fawr iawn i’r aelodau am eu cynigion gwych yr ydym yn falch o’u rhannu gyda chi isod.
Pob lwc i’r aelodau sy’n mynd ymlaen i gynrychioli CFfI Maldwyn yn Eisteddfod Rithwir CFfI Cymru a fydd yn digwydd rhwng 29 a 31 Mawrth!