Ffion Wright-Evans

    Development Officer

    Swyddog Datblygu

    Caryl Hughes

    Administrator

    Gweinyddwr

    Sandra Bailey

    Financial Controller

    Rheolwr Ariannol

    Er ei bod wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i’r hyn yr ydym wedi arfer ag ef yn Swyddfa CFfI, bu’n anrhydedd parhau i ddarparu cymaint o gyfleoedd a gweithgareddau â phosibl i chi yn y byd rhithwir! Mae’r ysbryd cymunedol a’r gwytnwch a ddangoswyd gan gymuned yr CFfI yma yn Nhrefaldwyn dros y 12 mis diwethaf yn rhywbeth y dylech chi i gyd fod yn browd ohono. Mae’r gwaith caled rydych chi i gyd wedi’i wneud a’ch cyflawniadau unigol a chlwb wedi sicrhau bod Trefaldwyn yn bendant yn dal i fod ar y map!

    Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r tîm anhygoel o Swyddogion ac Arweinwyr Sirol am eu cefnogaeth trwy gydol y flwyddyn. Rydym mor ddiolchgar i chi i gyd am eich gwaith caled a’ch ymrwymiad i’r sefydliad gwych hwn yn ystod blwyddyn heriol arall. Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â chi i gyd. Bryony, er nad yw dy flwyddyn fel Cadeirydd y Sir wedi mynd fel yr oeddech yn rhagweld, rwyt wedi arwain y mudiad gyda brwdfrydedd ac ymroddiad pur, gan fynychu’r cyfarfodydd rhithwir a digwyddiadau gyda gwên heintus ar eich wyneb yr holl amser ar Zoom. Diolch am bopeth.

    Diolch i’r rhieni ac arweinwyr y clybiau am eich cefnogaeth trwy gydol y flwyddyn, ac wrth gwrs, chi’r aelodau am barhau i ddangos eich angerdd a’ch ymrwymiad i CFfI Maldwyn. Chi yw’r rheswm ein bod ni yma, ac mae eich syniadau a’ch barn mewn cyfarfodydd Sir yn sylfaenol wrth sicrhau bod y mudiad yn parhau i ddatblygu a symud ymlaen.

    Er bod yr amseroedd yn dal i fod ychydig yn ansicr ar hyn o bryd, edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Swyddfa CFfI newydd yn Mart y Trallwm yn y dyfodol agos. Byddwn yn parhau i weithio’n galed y tu ôl i’r llenni i ddarparu cyfleoedd a chystadlaethau newydd a chyffrous i chi ac rydym yma i’ch cefnogi chi a’ch clybiau mewn unrhyw ffordd y gallwn, felly os oes angen unrhyw beth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd yn fuan!

    Although it has been a very different year to what we are used to in the YFC Office, it has been an honour to continue to provide you with as many opportunities and activities as possible in the virtual world! The community spirit and resilience demonstrated by the YFC community here in Montgomery over the past 12 months is something that you should all be proud of. The hard work that you have all put in and your individual and club achievements have ensured that Montgomery is most definitely still on the map!

    We would like to take this opportunity to thank the incredible team of County Officials and Leaders for their support throughout the year. We are so grateful to you all for your hard work and commitment to this fantastic organisation during what has been another challenging year. It has been a pleasure to work alongside you all. Bryony, although your year as County Chairman has not been as you anticipated, you have led the movement with pure enthusiasm and dedication, attending virtual meetings and events with an infectious smile on your face the entire time which has always cheered us up on Zoom. Thank you for everything.

    Thank you to the parents and club leaders for your support throughout the year, and of course, you the members for continuing to show your passion and commitment to Montgomery YFC. You are the reason that we are here, and your ideas and opinions at County meetings are fundamental in ensuring that the movement continues to develop and move forward.

    Although times are still a little uncertain at present, we look forward to welcoming you to the new YFC Office at Welshpool Livestock Sales in the near future. We will continue to work hard behind the scenes to provide new and exciting opportunities and competitions for you and we are here to support you and your clubs in any way that we can, so if you need anything or have any questions please get in touch. We look forward to seeing you all very soon!