Mae’n deg dweud bod 2020 wedi bod yn flwyddyn ddigynsail, ond ymhlith yr holl heriau ac amseroedd caled, mae cymaint o bethau wedi digwydd sy’n werth eu dathlu.

    Mae’r profiad o’r cyfnod clo’n bendant wedi bod yn ddeffroad, mae wedi bod yn amser da i fyfyrio ar yr hyn sy’n bwysig ac i werthfawrogi’r pethau a gymerasom yn ganiataol ar un adeg. Mae treulio amser gyda’ch ffrindiau, anwyliaid a byw yn ein cefn gwlad hardd yn rhai enghreifftiau.

    O’r diwedd, mae hi mor braf gweld cyfyngiadau’n lleddfu, ac i ddychwelyd yn ôl i’r hyn oeddwn yn gallu gwneud cynt. Edrychwn ymlaen at gwrdd mewn person a pharhau ag ysbryd a hwyl y CFfI.

    Fel clwb, rydym wedi gwneud y gorau o’r sefyllfa ac wedi parhau i gwrdd ‘ar lein’ yn rheolaidd i gael hwyl a dysgu pethau newydd. Rydym wedi cynnal amrywiaeth o nosweithiau rhithiol, gan gynnwys cwisiau, bingo, noson gwneud torchau, coginio crempogau a sgyrsiau diddorol gan aelodau a chyn-aelodau’r clwb. Diddorol oedd cael dysgu am ‘Wool & Raddle’; menter wlân tair chwaer yn Nyffryn Banw.

    Da oedd gweld nifer o’n haelodau’n dal i deimlo’n gystadleuol, ac yn cymryd rhan yng Nghystadlaethau’r Sir, gyda’r clwb yn curo’r Sioe Gartref Cofid a’r Ffair Aeaf Rhithiol ac yn dod ail yn yr Eisteddfod Rithiol. Profiad hollol wahanol oedd cystadlu’n rhithiol ond braf oedd cael y cyffro o gymryd rhan.

    Braf hefyd oedd cael dathlu amrywiaeth o lwyddiannau unigol yn y clwb dros y flwyddyn. Cafodd Carol Morgan ei ail hethol yn Is-lywydd y Sir a Lynfa Jones ei hethol yn Swyddog Cyfathrebu’r Sir yn y Cyfarfod Blynyddol ym Mis Medi 2020. Cafodd 3 aelod eu dewis i fynd teithio, er bod Cofid wedi gohirio’r cynlluniau am flwyddyn arall. Cafodd Ifan Huws ei ddewis i deithio trwy’r rhaglen ‘Llygad Amaeth’ ac mi fydd Lwsi Morgan a Greta Roberts yn profi’r machlud yn Affrica ar y trip Saffari

    Roeddem mor falch o gael ein henwi fel ‘Clwb Mis Mawrth Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc 2021’ a Lynfa Jones yn cael ei henwi fel Aelod Hyn y Flwyddyn CFfI Maldwyn.

    Yn dilyn canllawiau Cofid, codwyd dros £2,000 tuag at elusennau gwahanol, wrth i ni gynnal Taith Dractorau, Helfa Drysor Car a Noswyl Canu Carolau. Codasom ysbrydion a lledaenwyd llawenydd drwy’r gymuned.

    Rydym hefyd wedi parhau i hyrwyddo’n clwb trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, i ymgysylltu ag aelodau a’r gymuned.

    Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod a chymdeithasu unwaith eto, a mwynhau’r holl mae ffederasiwn ffermwyr ifanc yn ei gynnig.

    Hoffwn ddiolch i’r holl aelodau am eu hymrwymiad dros y flwyddyn ddiwethaf a hoffwn longyfarch yr aelodau a’r clwb am yr holl lwyddiannau. Pob dymuniadau i’r clwb yn y flwyddyn nesaf a diolch yn fawr i’r gymuned sy’n ein cefnogi’n barhaus.

    It is fair to say that 2020 has been an unprecedented year, but amidst all the challenges and hard times, so many things have happened that are worth celebrating.

    The lockdown experience has definitely been a wake-up call. It has been a good time to reflect on what is important and to appreciate the things we once took for granted. Spending time with your friends, loved ones and living in our beautiful countryside are just some examples.

    Finally, it’s so nice to see the easing of restrictions so we can get back to doing what we were able to do before. We look forward to meeting in person and continuing with the YFC spirit and fun.

    As a club, we have made the most of the situation and have continued to meet online regularly to have fun and learn new things. We have held a variety of virtual evenings including; quizzes, bingo, wreath making, pancake making, along with interesting talks from club members and past members. It was interesting to learn about ‘Wool & Raddle’; a sister wool enterprise in Dyffryn Banw.

    It was good to see many of our members with their competitive streaks taking part in County Competitions, with the club winning the ‘Sioe Cartref Covid’ and the Virtual Winter Fair, and also placing second in the Virtual Eisteddfod. It was a completely different experience competing virtually, but it was nice to have the excitement of taking part.

    It was also great to celebrate a variety of individual achievements over the year. Carol Morgan was re-elected as County Vice President and Lynfa Jones was elected as County Communications Officer at the AGM in September 2020. Three members were selected to travel with the International Programme, although Covid have delayed plans for another year. Ifan Huws was chosen to travel through the ‘Agri ‘I’’ programme and Lwsi Morgan and Greta Roberts will be experiencing the African sunset during the Safari trip.

    We were so proud to be named ‘National Federation of Young Farmers Club of the Month – March 2021’ and Lynfa Jones being named Montgomery YFC Senior Member of the Year.

    Following Covid guidelines, we raised over £2,000 for different charities, as we held a Tractor Run, Car Treasure Hunt and Carol Singing Night. We lifted spirits and spread joy throughout the community.

    We have also continued to promote our club through social media platforms, to engage members and the community.

    We are really looking forward to meeting and socialising again, and enjoying all that the Young Farmers’ Federation offers. We would like to thank all the members for their commitment over the past year and to congratulate the members and the club for all achievements. We wish the club well in the year to come and thank you to our community who continuously supports us.

    Club Officials

    Swyddogion Clwb

    logo

    Lwsi Morgan

    Chairman

    Cadeirydd

    logo

    Ifan Huws

    Vice Chairman

    Is-Gadeirydd

    logo

    Lynfa Jones

    Secretary

    Ysgrifennyddes

    logo

    Hywel Jones

    Treasurer

    Trysorydd