Ma hi wedi bod yn flwyddyn tra wahanol i ni fel clwb a dweud y lleiaf, ond er gwaethaf y sefyllfa sydd ohoni, mae ysbryd yr CFfI yr un mor gryf ag erioed, a ninnau wedi llwyddo i gyflawni tipyn o dan yr amgylchiadau! 

    Un o uchafbwyntiau’r clwb eleni heb os nac oni bai oedd yr Eisteddfod rithiol a gynhaliwyd fis Mawrth ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol CFfI’r Sir. Roedd hi’n sicr yn Eisteddfod wahanol i’r arfer, heb fwrlwm arferol ymarferion wyneb yn wyneb, ond roeddem yn benderfynol o wneud y gorau o’r sefyllfa a sicrhau bod ein haelodau’n gallu cael profiad mor hwyliog ag erioed! Fe wnaethom ni gynnal cwpl o sesiynau rhithiol yn arwain at yr Eisteddfod e.e. sesiwn ysgrifennu limrigau, a hynny er mwyn helpu ein haelodau i baratoi ar gyfer y cystadlu a rhoi cyfle i bawb gymdeithasu gyda’i gilydd yn yr un modd ag y byddem yn ei wneud unrhyw flwyddyn arall. Rydym yn falch iawn o allu dweud bod gwaith caled ac ymroddiad ein haelodau wedi talu ei ffordd, wrth i’r clwb sicrhau 10 gwobr gyntaf, 5 ail wobr, a 6 trydedd wobr yn yr Eisteddfod Sir, yn ogystal â Lliwen Jones yn ennill cadair yr eisteddfod sir am y trydydd tro yn olynol – arweiniodd hyn i gyd at y clwb yn sicrhau’r safle 1af ar frig y tabl pwyntiau ac yn ennill yr Eisteddfod!

    Rydym yn falch iawn o’r aelodau hynny a aeth ymlaen i gynrychioli’r sir yn Eisteddfod CFfI Cymru ddiwedd mis Mawrth, gan gyfrannu at fuddugoliaeth Maldwyn yn yr adran gwaith cartref yn ogystal â’r cystadlaethau perffomio. Gan gynnwys ymgais deuawd doniol Elin a Lliwen i bortreadu “Caru yn y cyfnod clo” yn llwyddo gyraedd  y brig!  Braf iawn hefyd yw gallu dweud bod coron CFfI Cymru yn dod yn ôl i’n clwb eleni wrth i Lliwen Jones gael ei choroni mewn seremoni rithiol ar ôl iddi ennill y gystadleuaeth rhyddiaith gyda’i stori fer ‘tu ôl i’r mwgwd’. Yn anffodus, mae Lliwen eto i dderbyn ei choron drwy’r post, felly mae coron bapur o hen gracer Nadolig wedi gorfod gwneud y tro am rŵan! Er mor falch yr ydym ni o’r llwyddiannau rhithiol hyn, edrychwn ymlaen yn arw at y diwrnod y gallwn ni i gyd gystadlu gyda’n gilydd ar lwyfan unwaith eto – a mynd am gyri wedyn ar ddiwedd y noson, yn ôl y traddodiad! 

    Rydym hefyd yn falch iawn o ddweud bod y nifer uchaf erioed o’n haelodau wedi llwyddo i sicrhau lle ar raglen deithio ryngwladol CFfI Cymru. Hoffem longyfarch Lliwen Jones a Hanna Eiddon Lewis am gael lle ar y daith ‘interrailing’, ac Elin Angharad Evans, Miriam Davies, ac Heledd Angell Davies am gael lle ar y daith i Dde Affrica. Croesi bysedd y caiff y teithiau fynd rhagddynt yn ôl y bwriad yn 2022!

    Er nad ydym wedi gallu cwrdd wyneb yn wyneb gymaint ag y byddem wedi ei hoffi dros y flwyddyn ddiwethaf, roeddem yn ffodus o gael tywydd digon braf i fynd am daith gerdded yn ôl yn yr hydref a chael cwrdd fel aelodau am y tro cyntaf ers misoedd lawer! Dechreuon ni ym Machynlleth a cherdded i Lyn Glanmerin ac yn ôl, gan gyfrannu cyfanswm o 58.2 milltir at yr her gerdded ‘give it some welly’.

    Cynhaliwyd sawl noson rithiol lwyddianus iawn yn ystod y flwyddyn hefyd, ac roedd y rhain yn darparu cyfle gwych i ni roi cynnig ar weithgareddau newydd fel clwb. Roedd y nosweithiau rhain yn cynnwys cwis, bingo, tiwtorial tynnu llun, a noson ‘Taskmaster’ i enwi rhai yn unig! Yn ogystal, cynhaliwyd noson ar y cyd â chlwb Dyffryn Tanat a Berriew lle bu Nyrs, Bydwraig, a doctor dan hyfforddiant yn siarad am eu profiadau yn ystod y pandemig – roedd hon yn noson enwedig o ddifyr, ac wir yn agoriad llygad.

    Yn ystod blwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen, rydym yn hynod o ddiolchgar i fudiad y Ffermwyr Ifanc am barhau i ddarparu cyfleoedd i’w haelodau yn rhithiol. Er roedd hi’n braf medru parhau â gweithgareddau a nosweithiau cymdeithasol ar-lein, rydym yn edrych ymlaen yn arw at gael bod yng nghwmni’r aelodau unwaith eto!

    It has been a very different year for us as a club to say the least, but despite the current situation, the spirit of the YFC is as strong as ever, and we have achieved a great deal considering the circumstances! 

    One of the highlights for the club this year was undoubtedly the virtual Eisteddfod held in March. It was certainly a different Eisteddfod than usual, without the usual hustle and bustle of face-to-face practices, but we were determined to make the most of the situation and ensure our members were able to have as much fun as possible! We held a couple of virtual club nights leading up to the Eisteddfod such as a limerick writing session, and an evening to help our members prepare for the competition and give everyone the opportunity to socialize in the same way as we do any other year. We are delighted to say that the hard work and dedication of our members paid off, with the club securing 10 first prizes, 5 second prizes, and 6 third prizes at the County Eisteddfod, as well as Lliwen Jones winning the Chair for the third time in a row – all of which led to the club securing 1st place at the top of the points table and winning the Eisteddfod! 

    We are very proud of those members who went on to represent the county at the Wales YFC Eisteddfod at the end of March, contributing to Montgomery’s victory in the homework section as well as the performance competitions, including Elin and Lliwen’s humorous duet with their attempt to portray “Love in the lock-down” which secured first place! It is also pleasing to say that the Wales YFC crown is returning to our club this year as Lliwen Jones was crowned in a virtual ceremony after winning with her short story ‘Behind the Mask’. Unfortunately, Lliwen is yet to receive her crown by mail, so a paper crown from an old Christmas cracker has had to make do for now! As proud as we are of these virtual achievements, we very much look forward to the day when we can all compete on stage again – and go for a curry afterwards at the end of the night, according to tradition! 

    We are also delighted to report that a record number of our members have successfully secured a place on the Wales YFC International Travel programme. We would like to congratulate Lliwen Jones and Hanna Eiddon Lewis for securing a place on the ‘Interrailing’ trip, and Elin Angharad Evans, Miriam Davies, and Heledd Angell Davies for securing a place on the tour to South Africa. Fingers crossed that the trips will go ahead as planned in 2022! 

    Although we haven’t been able to meet face to face as much as we would have liked over the last year, we were fortunate to have nice weather to go for a walk back in the Autumn and meet as members for the first time in months! We started in Machynlleth and walked to Glanmerin Lake and back, contributing a total of 58.2 miles to the ‘Give It Some Welly’ walking challenge. 

    We also had several very successful virtual evenings during the year, and these provided a great opportunity for us to try new activities as a club. These evenings included a quiz, bingo, a drawing tutorial, and a ‘Taskmaster’ night to name just a few! We also held a joint evening with Dyffryn Tanat YFC and Berriew YFC where a Nurse, Midwife and Trainee Doctor talked about their experiences during the pandemic – this was a particularly entertaining evening, and a real eye-opener. 

    During an unprecedented year, we are extremely grateful to the Young Farmers organisation for continuing to provide opportunities for its members in a virtual way. Although it was nice to be able to continue activities and social evenings online, we are really looking forward to being with the members again!

    Club Officials

    Swyddogion Clwb

    logo

    Elin Haf Williams

    Chairman

    Cadeirydd

    logo

    Elin Angharad Evans

    Vice Chairman

    Is-Gadeirydd

    logo

    Lliwen Jones

    Secretary

    Ysgrifennyddes

    logo

    Miriam Davies

    Treasurer

    Trysorydd

    logo

    Fflur Jones

    Vice Treasurer

    Is-Drysorydd

    logo

    Mari Williams

    Minutes & Attendance Officer

    Swyddog Cofnodion a Presenoldeb

    logo

    Mari Fychan

    Publicity Officer

    Swyddog y Wasg

    logo

    Ilan Jones

    Social Secretary

    Ysgrifennydd Cymdeithasol