CFFI Dyffryn Banw YFC
Steffan Harri yn profi ei fod yn ddoniol yn ei lefaru / Steffan Harri proves to be Humerous in his Recitation
Yn ei flwyddyn gyntaf yn cystadlu cynrychiolodd Steffan Jones o GFFI Dyffryn Banw ei Glwb a’r Sir yn Eisteddfod CFFI Cymru yn Abergwaun ym mis Rhagfyr. Dychwelodd Steffan adref, wedi ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth llefaru, cychwyn da i’w fywyd CFFI !
Steffan Jones of CFfI Dyffryn Banw in his first year of competing represented the County and his club at the All Wales YFC Eisteddfod in Abergwaun in December. Steffan returned home with a first prize in the Humerous Recitation competition, a promising start to his YFC life!
Siwan yn ennill y Gadair / Siwan wins the Chair
Aeth Siwan Jones, Ysgrifenyddes Clwb, adref o’r Eisteddfod a gynhaliwyd dechrau Tachwedd yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn Fardd. Daeth stori fer Siwan, y testun ‘Dathlu’, i’r brig allan o nifer uchel o geisiadau. Cynrychiolodd Siwan y Sir yn Eisteddfod Cymru yn Sir Benfro yn Rhagfyr.
Club Secretary Siwan Jones went home as the Chaired Bard at this years YFC County Eisteddfod, held in Llanfyllin High School at the beginning of November. Siwan’s short story entitled ‘Celebration’ was chosen from a high number of entries and went forward to represent the County at the All Wales YFC Eisteddfod in Pembrokeshire in December.
